Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2016

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3521


(306)

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.15

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Cynhyrchu Ynni Lleol

Dechreuodd yr eitem am 14.45

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Diweddariad ar y gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar Lifogydd yng Nghymru

Dechreuodd yr eitem am 15.17

</AI4>

<AI5>

5       Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016

Dechreuodd yr eitem am 16.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5910 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) (Cymru) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2015 

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

9

51

Derbyniwyd y Cynnig.

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diwygio Lles a Gwaith sy'n ymwneud â darpariaethau/diwygiadau i'r Bil ynghylch y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 16.23

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5908 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diwygio Lles a Gwaith, sy'n ymwneud â thlodi plant a symudedd cymdeithasol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

16

51

Derbyniwyd y Cynnig.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl ar Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2014-15

Dechreuodd yr eitem am 16.32

NDM5909 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad 2014-15 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cyfeiriadau at hawliau pobl hŷn yn yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5909 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Effaith a Chyrhaeddiad 2014-15 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.

2. Yn nodi cyfeiriadau at hawliau pobl hŷn yn yr adroddiad effaith a chyrhaeddiad ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn.

Derbyniwyd y cynnig wedi’I ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

8       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.15

</AI8>

<AI9>

</AI9>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.18

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>